Datganiad Hawlfraint
Drwy ymweld â gwefan y Ganolfan Ecoleg a Hydroleg, a defnyddio’r wybodaeth sydd ar gael, rydych yn cytuno ar y canlynol:
Y Natural Environment Research Council (NERC) sy’n berchen ar hawlfraint y deunydd, yn cynnwys delweddau, sydd ar gael ar y safle hwn. Cedwir pob hawl.
Gall ymwelwyr â’r safle hwn ddefnyddio gwybodaeth yn y ffyrdd a ddisgrifir yn yr hysbysiad cyfreithiol hwn:
gellwch argraffu neu lwytho copi sengl o ddeunydd hawlfraint NERC i lawr ar gyfer ymchwil neu ddefnydd personol;
ni chewch newid unrhyw ddeunydd na thynnu unrhyw ran o unrhyw hysbysiad hawlfraint;
ni ellir defnyddio gwybodaeth a geir ar y safle hwn at ddibenion masnachol, oni bai fod y Natural Environment Research Council wedi rhoi ei ganiatâd ysgrifenedig ymlaen llaw.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â ni drwy ddefnyddio’r ffurflen adborth ar y we.
Cysylltu â Gwe CEH:
Mae Gwe CEH yn croesawu ac yn annog i wefannau eraill gysylltu â gwybodaeth a gedwir ar y tudalennau hyn. Nid oes raid i chi ofyn caniatâd i gysylltu, ond gallwn ddarparu’r geirio a’r graffeg cysylltu.
Cysylltiadau o’r safle hwn:
- Nid yw cysylltiadau o’r safle hwn yn cael eu cefnogi gan y CEH na’r NERC.
- Mae cysylltiadau a fframiau sy’n cysylltu’r safle hwn gyda safleoedd eraill yno er hwylustod yn unig ac nid ydynt yn golygu fod y CEH na’r NERC yn cefnogi nac yn cymeradwyo’r safleoedd eraill hynny, eu cynnwys na’r bobl sy’n eu cynnal.
- Cyfrifoldeb defnyddwyr y Rhyngrwyd yw gwneud eu penderfyniadau eu hunain ynghylch cywirdeb a dibynadwyedd y wybodaeth a geir mewn safleoedd sy’n gysylltiedig â’r wefan hon, ynghyd â pha mor gyfredol ydyw.
Diogelwch firws:
Rydym yn gwneud pob ymdrech i wirio a phrofi deunydd ar bob cam o’r cynhyrchu. Mae bob amser yn ddoethach i chi redeg rhaglen gwrth-firws ar bob deunydd a gaiff ei lwytho i lawr o’r rhyngrwyd.
Ni allwn dderbyn cyfrifoldeb os yw’ch data neu eich system gyfrifiadurol yn cael ei golli, ei chwalu neu ei ddifrodi wrth ddefnyddio deunydd sy’n deillio o’r wefan hon.
Mae’r canlynol yn wir am y wybodaeth ar y safle hwn:
- Gwybodaeth gyffredinol ydyw a roddir fel rhan o rôl statudol CEH a’r NERC wrth gyhoeddi eu gweithgarwch a lledaenu gwybodaeth am y sefydliad
- Mae’n amodol ar ansicrwydd arferol ymchwil
- Gellir ei newid heb rybudd
- Ni ddylid dibynnu arni byth fel sail dros wneud rhywbeth neu fethu â gwneud rhywbeth.
Ymwadiad:
Trefnir i’r holl wybodaeth a ddarperir gan CEH ar ei thudalennau gwe fod ar gael er mwyn rhoi mynediad uniongyrchol er hwylustod pobl sydd â diddordeb. Tra bo CEH yn credu fod y wybodaeth yn ddibynadwy, pery gwall dynol neu fecanyddol yn bosibilrwydd. Nid yw CEH felly yn gwarantu cywirdeb, cyflawnrwydd, amseroldeb na dilyniant cywir y wybodaeth. Ni fydd CEH, NERC nac unrhyw un o’r ffynonellau gwybodaeth yn gyfrifol am unrhyw wallau nac esgeulustra, na thros ddefnyddio’r wybodaeth hon, na’r canlyniadau a geir o’i defnyddio.
Rhagor o Wybodaeth:
Dylid gofyn am ragor o wybodaeth, ceisiadau ac ymholiadau ynghylch atgynhyrchu a hawliau, drwy ddefnyddio’r ffurflen adborth ar y we.


