Datganiad Hawlfraint
Drwy ymweld â gwefan y Ganolfan Ecoleg a Hydroleg, a defnyddio’r wybodaeth sydd ar gael, rydych yn cytuno ar y canlynol:
Y Natural Environment Research Council (NERC) sy’n berchen ar hawlfraint y deunydd, yn cynnwys delweddau, sydd ar gael ar y safle hwn. Cedwir pob hawl.
Gall ymwelwyr â’r safle hwn ddefnyddio gwybodaeth yn y ffyrdd a ddisgrifir yn yr hysbysiad cyfreithiol hwn:
gellwch argraffu neu lwytho copi sengl o ddeunydd hawlfraint NERC i lawr ar gyfer ymchwil neu ddefnydd personol;
ni chewch newid unrhyw ddeunydd na thynnu unrhyw ran o unrhyw hysbysiad hawlfraint;
ni ellir defnyddio gwybodaeth a geir ar y safle hwn at ddibenion masnachol, oni bai fod y Natural Environment Research Council wedi rhoi ei ganiatâd ysgrifenedig ymlaen llaw.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â ni drwy ddefnyddio’r ffurflen adborth ar y we


