Y Drefn Gwyno
Cyflwyniad
Mae’r Natural Environment Research Council yn darparu gwybodaeth, cyllid, gwasanaethau a chyfleusterau i gymuned fawr ac amrywiol. Mae maint ac amrywiaeth y gymuned yn golygu y bydd gan unigolion a sefydliadau sylwadau, syniadau a chwynion ynghylch polisïau’r NERC, eu dulliau gweithredu a’r gwasanaethau maent yn eu defnyddio. Oherwydd maint ac amrywiaeth yr NERC, mae nifer o ffyrdd y gellwch gysylltu â ni. Er mwyn i ni ddelio gyda’ch cwynion yn gyflym ac yn effeithiol, rydyn ni’n cadw at set o addewidion ac i’n helpu i’w cyflawni, rydyn ni’n gofyn i chi ddilyn y drefn a ddisgrifir isod.
Addewid
Byddwn yn delio gyda’r holl gŵynion ysgrifenedig drwy:
- eu cydnabod ar unwaith gan ddweud pa mor hir y byddwn yn ei gymryd i ddod yn ôl atoch
- edrych i mewn i’ch cwynion yn llawn ac yn deg
- anfon ymateb llawn a chyflym atoch
- ystyried eich cwyn wrth adolygu gwasanaethau i’w gwella
Y Drefn
Os oes gennych gŵyn ynghylch gwasanaethau’r NERC, a fyddech cystal â rhoi gwybod i ni’n ysgrifenedig drwy’r post, ffacs neu e-bost. Disgrifiwch y gŵyn yn glir a dywedwch wrthym yr hyn y credwch y gallwn ni ei wneud i ddatrys pethau. A fyddech cystal â rhoi’ch enw a’ch cyfeiriad post llawn, cyfeiriad e-bost a rhifau ffôn/ffacs, fel y gallwn ddod yn ôl atoch.
Yn y lle cyntaf, a fyddech cystal â gwneud eich cwyn i’r sawl sy’n ymdrin â’ch gofynion. Os na all y person yma ymdrin â’ch cwyn, byddant yn ei throsglwyddo ymlaen i unigolyn uwch a rhoi eu henw i chi.
- Os ydych yn dal yn anfodlon neu’n ansicr â phwy i gysylltu, ysgrifennwch at y Cyfarwyddwr – Yr Athro Patricia Nuttall yn Centre for Ecology & Hydroloy, Maclean Building, Benson Lane, Crowmarsh Gifford, Wallingfrod, Oxfordshire OX10 8BB.
- Os ydych chi’n dal yn anfodlon, ysgrifennwch at:
Professor Alan Thorpe
The Chief Executive
Natural Environment Research Council
Polaris House
North Star Avenue
SWINDON
SN21EU
Bydd y Prif Weithredwr, Yr Athro Alan Thorpe, yn cychwyn ymchwiliad ffurfiol pellach ac yn ymateb i chi’n uniongyrchol gyda’i ganfyddiadau. Bydd yn eich cynghori hefyd, os ydych yn dal yn anfodlon, y gellwch ofyn i’ch cwyn fynd gerbron Cadeirydd y Cyngor. Yn olaf, os pery’r gŵyn heb ei datrys, byddwn yn eich cynghori y gellwch gysylltu ag unrhyw Aelod Seneddol a all gytuno i gyfeirio’ch cwyn at y Comisiynydd Seneddol dros Weinyddiaeth (yr Ombwdsman Seneddol).


